Y cam nesaf yn nhwf y Pentref Trefol yw ailddatblygiad arfaethedig Kings Lane Corner. Mae hyn yn darparu estyniad naturiol i'r Pentref Trefol a bydd yn wynebu'r Strand a'r lôn, sy'n gyswllt allweddol i gerddwyr â'r Stryd Fawr a chanol y ddinas. Bydd y cynllun yn darparu mwy o gartrefi fforddiadwy, cyfres o unedau ar ffurf cynhwysyddion llongau a fydd yn cynnwys nifer o fusnesau bach, a mannau agored wedi'u tirlunio. Bydd y cynllun yn rhan arall o jig-so’r pentref trefol ac wedi’i gyfuno â phrosiectau blaenorol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, bydd yn creu cyrchfan leol fywiog a fydd yn apelio at ymwelwyr, busnesau a thrigolion.

Hanes byr…

Mae'r safle'n ffinio â llinell ganoloesol afon Tawe ar hyd yr hyn a elwir heddiw yn Strand. Dargyfeiriwyd yr afon i ganiatáu ar gyfer creu Doc y Gogledd ym 1852. Yn y pen draw, llenwyd y doc ac mae bellach yn safle Parc Tawe. Roedd adeiladu'r doc mewn ymateb i ofynion y chwyldro diwydiannol a'r twf yn y defnydd o gopr a glo. Roedd safle Kings Lane Corner ar ymyl y cilffyrdd rheilffordd a elwid yn Coal Drops, lle'r oedd deunydd a dynnwyd o weithfeydd mwyngloddio yn cael ei gadw mewn storfa a'i gludo i longau a angorwyd yn y doc. Mae dyluniad y cynllun i ymgorffori cynwysyddion dur arddull llongau modern felly yn gyfeiriad yn ôl at ei orffennol diwydiannol, yn ogystal â darparu ysbrydoliaeth ar gyfer ymagwedd ddylunio wahanol at ddatblygiad yn yr ardal.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i rentu un o'r unedau masnachol newydd yma.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn...

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu ichi reoli cwcis o wefan Coastal a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.