Adfywio

Yn Beacon trwy adfywio rydym yn anelu at creu cymunedau bywiog, mwy deniadol a gwell cyfleoedd trwy adfywiad economi leol.yn





Ewch ar daith 360 o amgylch ein datblygiadau!

Cymerwch gip ar rai o'n prosiectau adfywio yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn Abertawe trwy ddefnyddio'r saethau i symud o gwmpas y map a chlicio ar yr 'i' am fanylion y prosiect

Datblygiadau dan Sylw

Yn Beacon rydym yn angerddol am adfywio trefol, sy'n ddull o gynllunio dinesig i atgyweirio problemau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ardal drefol. Ein hamcan yw trawsnewid ardaloedd darfodedig neu ddifethedig yn lleoedd economaidd gynhyrchiol yn y gymuned. Mae gennym Dîm Adfywio penodol, sy’n gweithio gyda phartneriaid fel awdurdodau lleol, a’i nod yw:

  • Creu cymuned gymdogaeth gynaliadwy sy’n fywiog ac amrywiol, ac sy’n darparu cyfleoedd a dyfodol gwell i gynifer o bobl â phosibl, boed yn drigolion, busnesau, gweithwyr neu ymwelwyr.
  • Cyfrannu at adfywio'r ardal yn y tymor hir trwy ddefnyddio asedau Beacon yn effeithiol.
  • Targedu buddsoddiad mewn ffordd gydgysylltiedig i sicrhau bod cynlluniau a defnyddiau yn ategu ei gilydd, yn bodloni galw lleol, yn cefnogi portffolio eiddo presennol Beacon ac yn cyd-fynd â strategaethau'r Cyngor a rhaglenni Llywodraeth Cymru.

Cwrdd â'r Tîm Adfywio

Penlun Andrew Parry-Jones
Andrew Parry-Jones
Rheolwr Adfywio

Prosiectau adfywio ychwanegol

Siambrau Caerloyw, Abertawe

Bydd y cynllun yn cynnwys trawsnewid yr adeilad hanesyddol hwn yn Ardal Forol Abertawe i ddarparu 16 o fflatiau fforddiadwy. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu'n rhannol o dan Raglen Gyfalaf Llety Traddodiadol (TACP) Llywodraeth Cymru. Bydd gwaith yn dechrau ar y safle yn 2025.

61 Ffordd y Brenin a 26 Stryd y Parc, Abertawe

Mae Beacon wedi caffael yr adeilad hwn yn ddiweddar gyda chymorth ariannol gan Raglen Gyfalaf Llety Traddodiadol (TACP) Llywodraeth Cymru. Dechreuodd y gwaith yn 2024 i adnewyddu ac addasu'r eiddo yn 7 fflat fforddiadwy a dwy uned fasnachol.

Cwrt Yr Afon, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cwrt yr Afon yn edrych dros afon Ogwr yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd maes parcio aml-lawr ar y safle yn flaenorol a oedd yn dioddef o broblemau strwythurol, gan arwain at ffensio llawer o leoedd er diogelwch. Ailddatblygodd Beacon y safle mewn partneriaeth â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru, a ariannodd y datblygiad yn rhannol gyda chyllid adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a grant tai cymdeithasol.

Mae'r safle bellach yn cynnwys 28 o fflatiau dwy ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol uwchlaw gofod masnachol, sydd bellach wedi'u gosod i gampfa. Wrth ymyl y bloc preswyl a masnachol a gadwyd gan Beacon, crëwyd maes parcio newydd â 242 o leoedd ar gyfer Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Nolton Street, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Tŷ'r Hen Gastell ar safle ar Stryd Nolton yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd Beacon yr adeilad gwreiddiol o ddechrau'r 20fed ganrif ar y safle gan yr Eglwys yng Nghymru. Ei ddefnydd blaenorol oedd fel bwyty bwyd cyflym. Mae'r safle sydd wedi'i ailddatblygu'n llwyr bellach yn cynnwys 12 fflat rhent cymdeithasol dros ddwy uned fasnachol. Mae enw'r datblygiad newydd yn golygu 'Hen Dŷ'r Castell'. Dewiswyd yr enw oherwydd mae'n debyg bod yr adeilad yn sefyll o fewn ôl troed castell Normanaidd gwreiddiol Pen-y-bont ar Ogwr, nad oes unrhyw olion ohono bellach.

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn eich galluogi i reoli cwcis o wefan Beacon a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.