Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar 104 o gartrefi newydd mewn lleoliad gwych ar hyd Glannau SA1 Abertawe.

Bydd Coastal yn cymryd tua 36 mis i gwblhau’r cartrefi, a fydd yn cael eu rhentu i bobl ag angen tai ledled y ddinas. Fel gyda phob cartref Tai Coastal, bydd rhenti yn is na chyfradd y farchnad y byddech yn disgwyl ei thalu i landlord preifat am gartref tebyg yn yr un lleoliad.

Mae adeiladu’r cartrefi yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei wneud gan y datblygwr, Everwell Development, yn eu prosiect cyntaf yn ne orllewin Cymru.

Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys adeilad masnachol newydd ar y llawr gwaelod ynghyd â 93 o leoedd parcio ceir a pharcio beiciau diogel.

 

“Mae'r cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel hyn mewn lleoliad anhygoel” meddai Pennaeth Datblygu Coastal, Kelvin Rees. “Mae glan y dŵr SA1 yn llecyn mor brydferth ac yng nghanol glannau’r ddinas gyda chysylltiadau trafnidiaeth, amwynderau, bywyd nos a siopa i gyd o fewn ychydig funudau ar droed.”

“Fel datblygwyr, rydym yn falch o fod yn bartner gyda Thai Coastal i ddod â 104 o gartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen i’r ardal adfywio hon ar lan y dŵr” meddai Charlie Parry, Prif Weithredwr Everwell Development. “Gyda’n gilydd, nid adeiladu tai yn unig yr ydym, ond creu cymunedau ffyniannus, cynhwysol lle gall pobl berthyn mewn gwirionedd.”

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn eich galluogi i reoli cwcis o wefan Beacon a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.